Share
Preview
President Speech, a day in the life of a social worker, news from our partners and more
 ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌ ‌
 
Cynnwys:
  • Arwain ADSS Cymru Gwyliwch fideo diweddaraf o Jonathan Griffiths, Llywydd ADSS Cymru
  • Sylw ADSS Cymru ar y pwysau presennol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru datganiad gan Jonathan Griffiths
  • Cydnabod rôl Gwaith Cymdeithasol Safbwynt Personol Jake Morgan
  • Newyddion Aelodaeth – Sarah Day
  • Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wasanaethau Oedolion Mae cadeirydd Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan , Claire Higgins , yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Oedolion
  • Wythnos ym mywyd ‘Gweithiwr cymdeithasol’ –Wythnos ym mywyd gweithiwr cymdeithasol - Bethan Mears (Gweithiwr cymdeithasol, RhCT)
  • Y Diweddaraf ar y Grant Cyflwyno Trawsnewid Nicki Harrison
  • Y Diweddaraf am y Gweithlu Glenda George
  • Digwyddiadau ADSS Louise Sweeney


Newyddion gan ein partneriaid:
  • Anabledd Dysgu – Gofal a chefnogaeth i Oedolion – Dyw Gwely yn y GIG ddim yn gartref’ Karen Eveleigh, Llywodraith Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru - Cynllun Gwaith Hawliau mewn Cartrefi Gofal 2022 – 2024
Contents:
  • Leading ADSS Cymru – Watch the latest video from Jonathan Griffiths, ADSS Cymru President
  • ADSS Cymru comment on current social care pressures in Wales a statement from Jonathan Griffiths
  • Recognising the role of Social Work A personal perspective Jake Morgan
  • Membership news – Sarah Day
  • Adult Services update The chair of the All Wales Adult's Services (AWASH), Claire Higgins provides an update on Adult Services
  • Children's Services update A week in the life of a social worker – Bethan Mears (Social worker, RCT)
  • Delivering Transformation Grant update Nicki Harrison
  • Workforce update Glenda George
  • Forthcoming ADSS events Louise Sweeney


News from our partners:

  • Learning Disability – Adult Care and support – ‘An NHS bed is not a home’ – Karen Eveleigh, Welsh Government
  • Older People’s Commissioner for Wales Rights in Care Homes Workplan 2022 – 2024
Crynodeb o'r flwyddyn ddiwethaf fel Llywydd
Mae Jonathan wedi arwain y sefydliad trwy flwyddyn heriol arall. Hoffai ADSS Cymru ddiolch yn ffurfiol i Jonathan am ei arweiniad cryf a'i ymrwymiad wrth gynrychioli barn ein proffesiwn ar draws y sector gofal cymdeithasol, iechyd ac yn ehangach. Gwrandewch ar farn Jonathan fel Llywydd a'r heriau y mae wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Leading ADSS Cymru
Jonathan provides an update on his first year as president, the current issues in social care, what he has learnt as a leader and the challenges and aspirations for 2022 / 2023.
Jonathan Griffiths, President of ADSS Cymru, speaks on the year ahead - YouTube

Jonathan Griffiths
- Director of Social Services and Housing, Pembrokeshire County Council
Sylw ADSS Cymru ar y pwysau presennol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru
Darllenwch ddatganiad gan Jonathan Griffiths, Llywydd ADSS, am y pwysau presennol ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru, ar wefan ADSS Cymru nawr. Cliciwch yma i ddarllen.


ADSS Cymru comment on current social care pressures in Wales
Read a statement from ADSS President, Jonathan Griffiths, on the current pressures in social care in Wales, on the ADSS Cymru website now. Click here to read.
Dathlu Diwrnod Gweithiwr Cymdeithasol y Byd
Ysgrifennodd Jake Morgan (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin) ddarn grymus a gonest iawn sy'n trafod ei daith ei hun fel Gweithiwr Cymdeithasol. Ystyriodd hefyd rai o'r heriau y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd yn 2022. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl - Gwaith Cymdeithasol – Safbwynt Personol ar gyfer diwrnod gwaith cymdeithasol y byd (adss.cymru).

Recognising the role of social work
Jake Morgan (Statutory Director of Social Services in Carmarthenshire County Council) wrote a very compelling and honest piece that discusses his own journey as a Social Worker.  He also considered some of the challenges social workers currently face in Wales in 2022. Click here to read article - A personal perspective for World Social Work Day (adss.cymru).

Jake Morgan Statutory Director of Social Services in Carmarthenshire County Council

Newyddion Aelodaeth

Fel y gwyddoch efallai, roedd Ali Bulman i fod i ymgymryd â rôl Arlywyddol ADSS Cymru ar gyfer Ebrill 2022 - 2023. Fodd bynnag, yn ystod y misoedd diwethaf, mae Ali wedi llwyddo i sicrhau rôl newydd yng Nghernyw ac felly bydd yn gadael Cymru cyn bo hir i ddechrau ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Strategol, Gofal a Lles.

Cytunwyd yng nghyfarfod bwrdd ADSS Cymru ym mis Ebrill y bydd Jonathan yn parhau yn rôl y Llywyddiaeth ar gyfer 2022 - 2023. Cytunwyd hefyd y bydd Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych, yn parhau yn ei rôl ar Fwrdd Cyfarwyddwyr ADSS Cymru. Rydym hefyd yn falch o adrodd y bydd Lance Carver, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bro Morgannwg, yn ymuno â Bwrdd y Cyfarwyddwyr fel Is-lywydd, ochr yn ochr ag Alwyn Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i bob un o'n tîm Llywyddiaeth am eu hymroddiad parhaus, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hwy i gyd dros y blynyddoedd nesaf.

Gwnaed newidiadau hefyd i'n Grŵp Arweinyddiaeth a'n grŵp polisi Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan. Rydym yn ffarwelio, yn lwc dda ac yn diolch i Keith Rutherford, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Nhorfaen, Gill Pratlett, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion yn Nhorfaen a Phil Gilroy a oedd yn Bennaeth Gwasanaethau Oedolion yn Sir Ddinbych. Os ydych yn gwybod am unrhyw un arall sydd wedi gadael neu os ydym yn bwriadu gadael ein haelodaeth, rhowch wybod i ni fel y gallwn gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr.


Sarah Day Uned Fusnes ADSS
Membership News

As you may be aware, Ali Bulman was due to take on the Presidential role for ADSS Cymru for April 2022 - 2023. However, in recent months, Ali has been successful in securing a new role in Cornwall and therefore will shortly be leaving Wales to begin her new job as Strategic Director, Care and Wellbeing.

It was agreed at the ADSS Cymru board meeting in April that Jonathan will continue in the Presidential role for 2022 - 2023. It was also agreed that
Nicola Stubbins, Director of Social Services at Denbighshire County Council, will continue in her role on the ADSS Cymru Board of Directors. We are also pleased to report that Lance Carver, Director of Social Services from the Vale of Glamorgan will be joining the Board of Directors as Vice President, alongside Alwyn Jones, Director of Social Services in Wrexham. We are very grateful to all of our Presidential team for their continued dedication, and we look forward to working with them all over the forthcoming years.


There have also been changes made to our Leadership Group and our All Wales Heads of Adult Services policy group. We say goodbye, good luck and thank you to Keith Rutherford, Director of Social Services in Torfaen, Gill Pratlett, Head of Adult Services in Torfaen and Phil Gilroy who was Head of Adult Services in Denbighshire. If you know of anyone else that has left or us planning to leave our membership, please let us know so that we can recognise their valuable contribution.


Sarah Day   ADSS Business Unit

Y wybodaeth ddiweddaraf gan Gadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru Gyfan (AWASH)
Wrth i flwyddyn gyntaf fy nhymor dwy flynedd fel Pennaeth Gwasanaethau Oedolion ddod i ben, rwyf wedi cael cyfle i edrych yn ôl ac ystyried sut brofiad y bu. Ddeuddeg mis yn ôl, roeddem yn parhau i fod yn y cyfnod clo ac roedd yn aneglur beth fyddai’n digwydd yn ystod gweddill 2021 – yn enwedig dros fisoedd y gaeaf a’r pwysau ychwanegol y mae'r sector gofal cymdeithasol yn eu hwynebu yn y tymor hwn i reoli'r cynnydd yn nifer yr achosion.
Fel y rhagwelwyd yn ystod gaeaf 2021, wynebodd Gwasanaethau Oedolion heriau gwirioneddol, wrth i awdurdodau lleol weld nifer fawr o bobl yn aros am becynnau gofal. Fel y mae’n gwneud bob amser, roedd AWASH yn parhau’n grŵp cefnogol yn ystod yr ail aeaf anodd tu hwnt.

Er bod y pwysau hyn yn parhau, mae'r drafodaeth bellach yn symud i ystyried sut y dylai gwasanaethau weithredu pan fyddwn yn cyrraedd cyfnod endemig, os byth.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed wrth lunio dyfodol gwasanaethau, a bod unrhyw newid yn canolbwyntio ar lais y mwyafrif.

Gyda lleihad yn y mesurau COVID-19, mae AWASH am weithio i ymgorffori’r newidiadau llwyddiannus i wasanaethau a ddigwyddodd dros ddwy flynedd y pandemig, ac osgoi dychwelyd i’r hen ffyrdd os yn bosibl.

O'r ymatebion a gafwyd yn ystod y pandemig, roedd yn glir bod awydd i wneud pethau'n wahanol. Mae cyfle yn awr i ddatblygu a newid mewn meysydd eraill. Fodd bynnag, yng nghyd-destun gweithlu sydd wedi blino’n llwyr ac wedi prinhau, mae angen symud yn ein blaenau ar gyflymder derbyniol wrth gydnabod bod angen ymateb yn gyflym i heriau cynyddol y mae unigolion yn eu hwynebu yn ein cymunedau.

Mae AWASH wedi ymrwymo i barhau â'r drafodaeth ar wasanaethau integredig a'r cyfle i helpu i lunio Datblygiadau Clwstwr Carlam. Mae’r ddeialog barhaus ynghylch pris gofal ac archwilio datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol hefyd yn bwysig iawn i ni.
Yr ydym bellach wedi gadael misoedd tywyll y gaeaf ar ein hôl, ac wrth i ni groesawu’r gwanwyn, ein nod yw dod o hyd i atebion i fynd i'r afael â'r pwysau rydym yn eu hwynebu nawr wrth ddarparu gwasanaethau. Wrth i’r gwanwyn droi’n haf, y gobaith yw y bydd AWASH yn cael cyfle i fanteisio ar gyfleoedd newydd a helpu i lunio a datblygu gofal cymdeithasol wedi’i adfywio i oedolion sydd wrth galon penderfyniadau.


Chair of Adult services (AWASH) update
As the first year of my two-year term, in the role of Head of Adult Services comes to an end I have had the opportunity to look back and consider what an experience it has been. Twelve months ago, we remained in Lockdown and were unclear as to what the rest of 2021 would hold. In particular the winter months with the additional seasonal pressures that the social care sector faces to manage its increased winter admissions.

As predicted the winter of 2021 really challenged Adult Services, with local authorities seeing large numbers of people awaiting packages of care. AWASH as always, remained a supportive group during the second most difficult of winters.
Whilst this pressure continues the discussion is now moving to consider what services should look like if we ever get to endemic phase.
Our priority is to ensure the voice of the individual is heard in shaping the future of services, and any change is centred on the voice of the majority.

With the reduction of Covid 19 measures, AWASH wants to work to embed successful service change that occurred over the 2 years of the pandemic and avoid reverting to type because we can.

From the responses during the pandemic the desire to do things differently was clear. There is now the opportunity to progress other areas of change.  However, in the backdrop of an exhausted and depleted workforce there is a need to take things at an acceptable pace whilst recognising the need for a speedy response to increased challenges faced by individuals in our communities.
AWASH are committed to continuing the discussion on Integrated Services and the opportunity to help shape Accelerated Cluster Developments. The ongoing dialogue around the price of care and exploration of the development of a National Care Service is also of significant importance to us.

We are now through the dark winter months and as spring emerges, we aim to find solutions to address the pressures we are now experiencing in the delivery of services. As Spring turns into the Summer, it’s hoped that AWASH has the opportunity to grab the new seeds of opportunity and help shape and grow a refreshed Social Care offer for adults that puts them at the Centre of decisions.

Claire Higgins Chair of AWASH; Conwy County Borough Council, Head of Service, Integration and Improvement
Diweddariad Gwasanaethau Chlidren Wythnos ym mywyd gweithiwr cymdeithasol - Bethan Mears (gweithiwr cymdeithasol, RCT)
Gwyliwch Bethan Mears, gweithiwr cymdeithasol o RhCT wrth i ni ei dilyn i weld rhai o'r pynciau, heriau a gwirioneddau dydd i ddydd o fod yn weithiwr cymdeithasol - Gwyliwch yma: A week in the life of a social worker - YouTube

Bethan Mears Gweithiwr Cymdeithasol Gweithiwr Cymdeithasol RCT

Children's Servises Update A week in the life of a social care worker – Bethan Mears (Social Worker, RCT)

Watch Bethan Mears, a social work from RCT as we follow her to uncover some of the topics, challenges and day to day realities of being a practicing social worker – Watch here: A week in the life of a social worker - YouTube

Bethan Mears
Social Worker RCT

Y Diweddaraf ar y Grant Cyflwyno Trawsnewid
Mae canfyddiadau'r adolygiad hwn ynghyd â chasgliadau ac argymhellion wedi cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ym mis Ebrill ar wefan ADSS Cymru, ynghyd â'r adolygiad o'r llenyddiaeth sydd ar gael. Cliciwch yma i ddarllen.

Delivering Transformation Grant Update
The findings from this review together with conclusions and recommendations has been published on the ADSS Cymru website, together with the review of available literature. Click here to read.

Nicki Harrison - ADSS Business Unit
Y Diweddaraf am y Gweithlu
Ers ein cylchlythyr nesaf, rydym wedi cyhoeddi cyfres o erthyglau newyddion am y gweithlu sy'n cynnwys;

  • Diweddariad gan Ofal Cymdeithasol Cymru
  • Fframwaith Cymwyseddau GCCh a Pholisi
  • Astudiaet OSCAR
Gwelwch ein ffrwd newyddion yma -
Workforce Items (adss.cymru)

Glenda George
- ADSS Business Unit

Workforce Update
Since our last newsletter we have published a series of Workforce news articles which include;

  • An update from Social Care Wales
  • IAA Competency Framework
  • OSCAR Study Policy

Check out our workforce news stream here -
Workforce Items (adss.cymru)



Digwyddiadau ADSS
Mae gan ADSS Cymru gyfres o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2022, a fydd o ddiddordeb i'n cydweithwyr yn y sector ehangach

Seminar yr Haf i Aelodau ADSS Cymru - Dydd Gwener 1af Gorffennaf


Cynhadledd Gwasanaethau Cymdeithasol Cenedlaethol 2022 - Dydd Mercher 28ain a Dydd Iau 29ain Medi

Byddwn yn ceisio adeiladu ar y cynnwys, y dysgu a chyfleoedd rhwydweithio a gynigiwyd gan y digwyddiadau blaenorol, sydd wedi derbyn adborth positif iawn gan ein haelodau a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae’r fath ddigwyddiadau uchel eu proffil yn uchafbwyntiau yn y calendr i arweinwyr gofal cymdeithasol yn ogystal  phartneriaid allweddol eraill ar draws gofal cymdeithasol ac iechyd ac rydym yn cynllunio dull hybrid i’r ddau ddigwyddiad hyn eleni.

Mae’r ddau ddigwyddiad yn cynnig profiad unigryw i gyfranogwyr, yn ogystal â’r Noddwyr a’r Arddangoswyr sydd eisoes wrthi’n ein helpu i wella gwasanaethau yn y dyfodol i’r bobl mwyaf fregus yn ein cymunedau, neu sydd â diddordeb i wneud hynny.

Mae gan ADSS Cymru gyfres o becynnau nawdd ar gael, sy’n cynnig cyfleoedd marchnata sylweddol a’r potensial i ddatblygu perthnasoedd gwaith pwysig rhwng comisiynwyr a darparwyr. Mae ein pecynnau yn cynnwys noddi digwyddiadau, hysbysebu yn neunyddiau darllen y gynhadledd a chyfleoedd hyrwyddo eraill*.

Mae pecyn Noddwr ac Arddangoswr manwl ar gael, cysylltwch â Louise Sweeney ar louise.sweeney@adss.cymru i gael mwy o wybodaeth neu i drafod pecyn nawdd addas ar gyfer eich sefydliad. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi.

*
Nid yw derbyn nawdd yn dangos cefnogaeth i gynnyrch neu achos y noddwyr.

Louise Sweeney - Uned Fusnes ADSS


Forthcoming ADSS events

DSS Cymru have a series of events planned for 2022, that will be of interest to our colleagues in the wider sector:

ADSS Cymru Members Summer Seminar - Friday 1st July

National Social Care Conference 2022 - Wednesday 28th and Thursday 29th September

We will look to build on the content, learning and networking opportunities offered by previous events, which have received highly positive feedback from our members and other key stakeholders.

These high-profile events are highlights in the calendar for social care leaders as well as other key partners across social care and health and we are planning to create a hybrid approach to both events this year.

Both events offer a unique experience to delegates, but also to Sponsors and Exhibitors who are already involved with, or have an interest in supporting us to improve future services for the most vulnerable people in our communities.

ADSS Cymru have a series of sponsorship packages available, which offer significant marketing opportunities and the potential to develop important working relationships between commissioners and providers.  Our packages include event sponsorship, advertising in the conference literature and other promotional opportunities*.

A detailed Sponsor and Exhibitor pack is available, please contact Louise Sweeney on louise.sweeney@adss.cymru for further information or to discuss a suitable sponsorship package for your organisation. We look forward to working with you.

*Accepting sponsorship does not advocate endorsement or support for the sponsors’ product or cause.

Louise Sweeney - ADSS Business Unit
Anabledd Dysgu – Gofal a chefnogaeth i Oedolion - Dyw Gwely yn y GIG ddim yn gartref’
Dylai pobl ag anabledd dysgu gael cefnogaeth i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymuned eu hunain.
Ychydig cyn y pandemig, adroddodd adolygiad cynhwysfawr [1] ar y 169 o unigolion yng Nghymru ag anabledd dysgu a oedd ar y pryd mewn gwely ysbyty arbenigol yn GIG Gymru, GIG Lloegr neu’r sector annibynnol.
  • Nodwyd fod gan ryw 45 o unigolion y potensial i symud at lety yn y gymuned.
  • Y cyfnod aros yn yr ysbyty ar gyfartaledd oedd ychydig dros 5 mlynedd.

Y blaenoriaethau allweddol a oedd yn gofyn i bartneriaid weithio gyda’i gilydd oedd:
  • Cynyddu darpariaeth ymyraethau cynnar/gofal argyfwng yn y gymuned
  • Cryfhau cynllunio gofal a gollwng o’r ysbyty
  • Cynyddu darpariaeth cefnogaeth integredig tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn y gymuned

Dechreuodd gwaith yn gynnar yn 2020 i gyflenwi’r blaenoriaethau allweddol ond effeithiodd heriau’r pandemig yn sylweddol ar gynnydd.  Gofynnwyd i gyrff gofal cymdeithasol i flaenoriaethu’r gwaith yma fel rhan o’u cynllunio ar gyfer adferiad.
Cyfarfu Group newydd i oruchwylio’r gwaith yma, “y Grŵp Gweithredu a Sicrwydd Cenedlaethol”, am y tro cyntaf yn Ionawr.    
Mae camau penodol i gefnogi cyflenwi’r blaenoriaethau yn cynnwys datblygiad:
  • Llwybrau gofal cenedlaethol
  • Safonau cenedlaethol
  • afonau cenedlaethol
  • Metrig i fesur cynnydd yn lleol ac yn genedlaethol
  • Cefnogi cyflwyniad Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru 

Heriau

Bydd rhai unigolion yn y man cywir ac yn cael y gofal a thriniaeth sy’n addas ar gyfer eu hanghenion; serch hynny, nid felly rhai eraill.  Rydym yn gwybod bod gennym bobl ag anableddau dysgu yn sownd yn ein system.  Mae’r rhesymau’n cynnwys:

  • Penderfyniadau a etifeddwyd fel rhan o gynlluniau i gau ysbytai
  • Problemau taliadau Gofal Iechyd Parhaus
  • Diffyg sgiliau penodol ac arbenigedd gan rai darparwyr preswyl i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth

Y Camau Nesaf

Ar gais y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ymgymerir ag archwiliad o bob unigolyn sydd ar hyn o bryd mewn gwely ysbyty arbenigol ar gyfer anableddau dysgu.  Bydd yr archwiliad yn cynnwys hyd yr arhosiad mewn ysbyty, a oes cynllun ar gyfer gollwng o’r ysbyty ac a yw’r cynllun wedi/yn cael ei weithredu.  Dylai’r data ar gyfer pob unigolyn ar ddydd Llun 21ain Chwefror gael ei roi erbyn Dydd Mawrth 8 Ebrill 2022 ynghyd ag adroddiad cynnydd ysgrifenedig ar gynlluniau i gyflenwi argymhellion yr adolygiad. 
Y bwriad yw datblygu system i gasglu a dadansoddi’r data yma’n achlysurol i gefnogi cynllunio lleol a chenedlaethol.

[1] Gwella Gofal, Gwella Bywydau – Yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Cenedlaethol Chwefror2020

Karen Eveleigh, Llywodraith Cymru


Learning Disability – Adult Care and support -
‘An NHS bed is not a home’

People with a learning disability should be supported to live as independently as possible in their own community.
Just before the pandemic, a comprehensive review [1]reported on the 169 Welsh individuals with a learning disability, who at that time were occupying a specialist hospital in-patient bed in NHS Wales, NHS England or the independent sector.
  • Approximately 45 individuals were identified as having the potential to move to community-based accommodation.
  • The average length of stay in a hospital bed was just over 5 years.

The key priorities for action that required partners to work together were:
  • Increase community based early intervention/crisis care provision
  • Strengthen care and discharge planning
  • Increase the provision of community based integrated housing, health and social care support

Work began in early 2020 to deliver these key priorities but the challenges of the pandemic impacted significantly on achieving progress.  Social care and health bodies have been asked to prioritise this work as part of their recovery planning. A new group to oversee this work “the National Implementation and Assurance Group” met for the first time in January.    
Specific actions to support delivery of the priorities include the development of:
  • National care pathways;
  • National standards;
  • Metrics to measure progress locally and nationally; and,   
  • Support implementation of the Welsh Government’s Reducing Restrictive Practice Framework

Challenges

Some individuals will be in the right place and getting the care and treatment that is right for their needs; however some are not.  We know we have people with learning disability stuck in our system.  Some of the reasons include:
  • Legacy decisions made as part of hospital closure plans
  • Continuing Health Care payment issues
  • Lack of specific skills and expertise to support people with complex needs within some residential providers

Next Steps

At the request of the Deputy Minister for Social Services, an audit will be undertaken of all individuals currently occupying a learning disability specialist hospital in-patient bed. The audit will cover length of hospital stay, whether a discharge plan is in place and whether the discharge plan has/is being actioned.   The data should be provided for all individuals as at Monday 21st February 2022 and submitted by Tuesday 8 April 2022 along with a written progress report on plans to deliver the recommendations of the review. 
It is intended to develop a system to collect and analyse this data periodically to support local and national planning.

[1] Improving Care, Improving Lives – National Collaborative Commissioning Unit February 2020

Karen Eveleigh, Welsh Government

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cynllun Gwaith Hawliau mewn Cartrefi Gofal 2022 - 2024
Yn Ebrill 2021, trefnodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gynhadledd ar hawliau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Bwriad y gynhadledd oedd rhoi cyfle i drafod ac edrych ar yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal (a'u teuluoedd a ffrindiau) a'r graddau i'r hyn y mae hawliau trigolion yn cael eu cynnal. Bwriad y trafodaethau oedd nodi unrhyw newidiadau ymarferol y mae eu hangen yn y tymor byr ac adnabod unrhyw newid tymor hir y mae ei angen i gefnogi ac ymestyn hawliau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. - Darllenwch yr erthygl lawn yma

Older People’s Commissioner for Wales
Rights in Care Homes Workplan 2022 – 2024
In April 2021, the Older People’s Commissioner for Wales convened a roundtable on the rights of older people living in care homes. The aim of the roundtable was to provide an opportunity to discuss and examine the challenges faced by older people living in care homes (and their families and friends) and the extent to which residents’ rights are being upheld. The intended outcome of these discussions was to identify the practical changes required in the short term and identify any longer-term change needed to support and extend the rights of older people living in care homes. – Read full article here

Older People's Commissioner for Wales

Nodyn i orffen:
Mae ADSS Cymru yn ceisio rhoi cefnogaeth yn uniongyrchol o'r uned fusnes a hefyd trwy ein grwpiau polisi. Os hoffech chi ofyn i neu ymgysylltu ag ADSS Cymru neu unrhyw un o'n grwpiau polisi isod, cysylltwch â nhw trwy e-bost contact@adss.cymru
  • GRŴP ARWEINYDDOL
  • PENAETHIAID GWASANAETHAU OEDOLION CYMRU GYFAN
  • PENAETHIAID GWASANAETHAU PLANT CYMRY GYFAN
Ar ôl derbyn eich ymholiad, bydd yr uned fusnes yn penderfynu, gyda Chadeirydd y grŵp polisi perthnasol, a oes ganddyn nhw’r gallu i ddelio â'ch cais. Bydd angen hefyd i ni sicrhau bod y cais yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac amcanion strategol y grŵp hwnnw ac ADSS Cymru.

Sylwch y bydd angen copi dwyieithog arnom ar gyfer yr holl wybodaeth a rennir gyda'n haelodau o fis Medi 2022.


End Note:
ADSS Cymru aims to provide support directly from the business unit and also via our policy groups. If you would like to request or engage ADSS Cymru or any of our policy groups listed below, please contact them via the email provided contact@adss.cymru.
  • LEADERSHIP GROUP
  • ALL WALES ADULT SERVICES HEADS
  • ALL WALES HEADS OF CHILDREN’S SERVICES
On receipt of your enquiry, the business unit will establish with the Chair of the relevant policy group if they have the capacity to deal with your request. We will also need to ensure the request aligns with the priorities and strategic objectives of that group and ADSS Cymru.

Please note that what we will require bilingual copy for all information that is shared with our members from September 2022.


Email Marketing by ActiveCampaign